XM/3321/3.
LLYTHYR: John W. Roberts yn Steuben [yr Amerig] at Mr. John Williams, ym Mhen y Graig, Bodferin, near Pwllheli. Bu farw ei wraig Elinor o `consumption’ ar 8 Ebrill. Adrodda ar ei amgylchiadau materol yn yr Amerig. Prynodd garreg fedd i roi ar Elinor ac mae yn ei disgrifio ac yn dweud beth sydd wedi ei ` sgwennu arni. Mae’r tywydd yn oer, a’r farchnad yn weddol iawn. Hanes y Cymry sydd yno.