XM/4948/141.
LLYTHYR: M. Thomas, Board School, Bethel at annwyl deulu. Roedd yn dda ganddo glywed bod y P.O.A. wedi dod i law yn llwyddiannus. Teimla ei hun dan rwymau neilltuol i ddiolch iddynt am eu gwahoddiad caredig i fynd yno i dreulio rhan o’i `holidays’, bydd yn bleser mawr ganddo. Roedd wedi bwriadu mynd adref i dreulio ychydig yn gyntaf ond ar ol ail feddwl cred mai yno y daw, gyda’r tren olaf nos Sadwrn nesaf i Lanrwst a chaiff fynd oddi yno adref. Thal hi ddim gan yr hen fachgen. ` Bydd yn torri i fyny y prynhawn yma, mae’n bryd iddo gael tipyn o heddwch oddi wrth `swn y pechaduriaid bach yma.’