XM/4948/107.
LLYTHYR: J.T. Evans, 17 Landsur Rd, Breck Rd, Lerpwl at Thomas Davies (Drover) 58 Denbigh St, Llanrwst yn ei hysbysu ei fod eisiau’r rhent i gyfarfod y trethi. Mae’n siwr nad yw’n disgwyl cael y tir am yr un rhent a’r degwm wedi mwy na dyblu ers pan gymerodd y tir. Ond er mwyn osgoi anghydfod fe’i caiff am £20. Mae’n ei atgoffa i ddefnyddio y cyfeiriad newydd. Amlen. Amgaewyd LLYTHYR: (1921 Dec. 30) J.T.E. 18 Landsur Rd. at T.D. yn egluro mai codi y rhent y mae i £20, codiad o £4 yn unig ond iddo ef ei gael i’w feddiant pan ddaw amser y tenant presennol i ben, Mai 17. Mae n disgwyl y bydd yn gyrru y £10 rhent hanner blwyddyn yn fuan.