XM/4948/104.
LLYTHYR: J.T. Evans, 17 Landsur Rd, Breck Rd, Lerpwl at Thomas Davies yn ei hysbysu fod y Tylcia ar werth ac os yw am wneud cynnig amdano, bydd yn fodlon derbyn £400. Mae’n deall bod T.D. yn dal i bori y tir er fod ei amser trosodd ac ni all ddweud na chafodd rybudd priodol. Bydd rhaid iddo godi £25 y flwyddyn am yr amser mae yn ei feddiant ar ol Mehef.6, mewn gwirionedd dyma yw’r rhent y dylai fod yn ei dderbyn ers 2 flynedd. Cynigiodd ffermwr o Nebo £25 iddo pan oedd gartref yn claddu ei dad . Erbyn iddo dalu trethi a degwm does fawr o rent yn weddill.