skip to main content

Browse the archives

XM/4948/15.

LLYTHYR: Robert Griffith, Bethel i Mrs. Thomas. Dywed ei fod yn cadw ei llythyr dyddiadedig Ion. 25 yn ofalus ar hyd y flwyddyn er mwyn gallu anfon gair pan fydd y gofgolofn wedi ei gorffen. Mae’r gwaith wedi ei gwblhau ac mae’r gofgolofn wedi ei gosod i fyny ers ddoe, Dydd Mawrth y Nadolig. Mae’n brydferth ac wedi costio tua £7 0s. 0d, roedd rhwng £5 a £6 wedi ei gasglu yn yr ardal a gwnaeth mam-yng- nghyfraith Mr. Thomas y gweddill i fyny. Ar y golofn ceir y geiriad "Er serchog gof am Morgan Thomas, Diweddar Ysgolfeistr Bethel, gynt o Dinorwig, yr hwn a fu farw Tach.12 1879 yn 26 mlwydd oed," gyda phennill gan "Glan Padarn" i ddilyn. Dywed i’r ardal ddangos parch mawr i goffadwriaeth M.T. ac yn barod iawn i gyfrannu. Bydd `ol ei waith ar rai ohonynt tra byddant byw. Mae William Parry, Gorffwysfa wedi bod yn ffyddlon iawn i’r achos. Gwel amser wedi rhedeg ymaith, nid yw ond fel ddoe pan oedd yn ei gynnig i gael ei le ar y School Board gyda Mr. Jones Ebenezer, Pwllheli yn cefnogi. Mae Thomas Hughes y Shop wedi marw gan adael y plant yn iawn.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.